Sinfonia (for Orbiting Spheres) gan Missy Mazzoli fydd yn agor y cyngerdd gan symud yn aflonydd, gyda’i ffigurau dolennog yn cylchdroi fel cysawd yr haul. Daw’r hanner cyntaf i ben gyda’r perfformiad cyntaf erioed o Astral Illuminations, Concerto Augusta Read Thomas i’r Soddgrwth, lle ceir cerddoriaeth liwgar a thelynegol ddwys sy’n dathlu llais llawn mynegiant y soddgrwth.
Ar ôl yr egwyl, bydd Cyfres ‘The Dark Island’ Grace Williams yn cyfleu morluniau geirwon, cyn i The Imagined Forest gan Grace-Evangeline Mason fynd â ni ar daith swreal, fel collage drwy dirwedd ffantasïol a ysbrydolwyd gan gelf gweledol a chwedlau gwerin. Symffoni gan Ester Mägi fydd yn cloi’r cyngerdd. Dyma ddarn sydd wedi'i wreiddio yn nhraddodiad gwerin Estonia ac sydd wedi'i siapio gan oes o fyfyrdod cerddorol dwfn – yr union beth i ddod â’r rhaglen hynod atmosfferig hon i ben yn bwerus.
Missy Mazzoli Sinfonia (for Orbiting Spheres) (10’)
Augusta Read Thomas Astral Illuminations, Concerto Newydd i’r Soddgrwth [Premiere Byd] (25’)
Egwyl
Williams Cyfres ‘Dark Island’ (c10’)
Grace-Evangeline Mason The Imagined Forest (15')
Ester Mägi Symffoni (14’)